Prosiect Archeoleg Pendinas

Menter treftadaeth ac amgylchedd ddwyieithog gymunedol arloesol ‘ar lawr gwlad’, yn ymdroi o gwmpas safle bryngaer Pen Dinas / y Warchodfa Natur Leol, a wnaiff archwilio treftadaeth, diwylliant ac amgylchedd y safle mewn amryw o ffyrdd, fel a amlinellwn yn gryno isod. Rydym yn rhagweld y caiff hyn effeithiau economaidd, diwylliannol, addysgiadol ac amgylcheddol cadarnhaol ar y rhanbarth, y gymuned a’i hunaniaeth ac ym Miosffer Dyfi.

  • Byddai hyn yn golygu arolwg geoffisegol cymunedol, nad yw erioed wedi cael ei wneud ar y gaer.
  • Dylunio a datblygu arwyddion a meinciau mwy priodol i’r safle – defnyddio’r safle ar gyfer twristiaeth ac addysg.
  • Creu canolfan Hanes a Threftadaeth yn y Ganolfan Gymunedol newydd arfaethedig, a fyddai’n canolbwyntio ar y Fryngaer a Phentref Penparcau. Byddai hyn yn cynnwys arwyddion digidol, ‘gorsafoedd treftadaeth’ a phecynnau ymwelwyr/addysgiadol.
  • Ymweld â safleoedd eraill yng Nghymru e.e. prosiect cymunedol Bryngaer Caerau yn Nhrelái Caerdydd, prosiect y Grug a’r Caerau yn Sir Ddinbych a Chastell Henllys yn Sir Benfro – i feithrin gallu, datblygu’r consortiwm (â golwg ar geisiadau cydweithredol) a deall yr arferion gorau ar safleoedd sydd eisoes yn bod – ymweliadau cwmpasu.
  • Gweithio tuag at greu llyfryn dwyieithog diweddar ar y canfyddiadau i gyd sy’n hawdd ei ddefnyddio, ar gael yn rhwydd ac yn agored.
  • Cyflawni astudiaeth ddichonoldeb.
  • Ymgysylltu â’r gymuned mewn amryw o ffyrdd, yn ddwyieithog, i sicrhau cynaliadwyedd y prosiect.
  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr/bobl leol sy’n dod i’r safle.
  • Datblygu gwell mynediad at Lwybr yr Arfordir a llwybr beicio Ystwyth drwy’r prosiect er mwyn e.e. gweithgareddau twristiaeth/treftadaeth cynaliadwy a allai dargedu iechyd a lles.

Anelu y mae’r uchod i gyd at ddathlu a thynnu sylw at Ben Dinas fel safle pwysig o werth hanesyddol enfawr i’n cymuned gyfagos a’r ardal ehangach h.y. ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol, defnyddio adnoddau naturiol a diwylliannol a gwneud yn fawr o dechnolegau digidol.

Byddai’r prosiect yn canolbwyntio ar greu a datblygu strwythurau a mentrau sy’n cyfoethogi’r amgylchedd naturiol ac adeiledig lleol ac yn darparu gwell mynediad ato, ynghyd â hybu cyfleoedd am gydweithrediadau yn ymwneud â’r dirwedd naturiol o fewn ardal Biosffer a darparu dulliau amgen o gyflenwi gwybodaeth i dwristiaid yn yr ardal.

Rydym yn rhagweld y byddai’r prosiect arfaethedig sydd wedi’i amlinellu uchod yn ffurfio’r sail i nifer o geisiadau i Gronfa Datblygu Cymunedol Ewrop.

Fodd bynnag, er mwyn tynnu’r uchod i gyd at ei gilydd yn gais cydlynol i Gronfa Datblygu Cymunedol Ewrop, mae angen inni edrych ar astudiaeth ddichonoldeb helaeth sy’n ymchwilio i hyfywedd yr amlinelliad arfaethedig uchod.

Rydym wedi ymgynghori â’r Comisiwn Brenhinol a gofyn i’r ymgynghoriaeth Trysor amlinellu amcangyfrif o ddyfynbris am astudiaeth ddichonoldeb i gyflawni’r gwaith a gynhyrchir gan astudiaeth o’r fath.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi bod yn archwilio’r posibiliad o ddatblygu’r safle mewn ffordd gynaliadwy a fyddai o ddiddordeb i amryw o randdeiliaid ac a ffurfiai’r ‘asgwrn cefn’ i brosiectau mwy. Er mwyn gwneud hyn rydym wedi ymgymryd â gwahanol fathau o ymgynghoriad – arwain teithiau cerdded dros 2 flynedd ar y safle (dros 200 o bobl), rydym wedi cynnal ‘Sgyrsiau Lleol’ â mwy na 300 o bobl, yn ogystal â holiaduron. Rydym wedi cynnal cyfarfodydd Llywio Cymunedol yn rheolaidd i drafod y datblygiad dan sylw, rydym wedi creu consortiwm i dynnu ynghyd arbenigedd yn yr ardal a llywio a rheoli’r datblygiad mewn ffordd briodol a thrylwyr. Rydym yn cynnal Cyfarfodydd Grŵp Hanes yn rheolaidd ac mae gennym grŵp Facebook sy’n trafod materion cysylltiedig. Fel consortiwm rydym wedi sicrhau hefyd ein bod ni wedi cael mewnbwn gan Gyngor Sir Ceredigion, CNC a’r Comisiwn Brenhinol.

Mae’n bwysig ein bod ni wedi gwneud y gwaith hwn fel y gallem ddatblygu prosiect hirdymor cynaliadwy.