Amdanom

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal ar gyfer cymuned ward Penparcau gan Fforwm Cymunedol Penparcau.

Ein gweledigaeth i Benparcau yw:

  • Creu cymuned gynhwysol fywiog lle gall pobl deimlo’n saff ac yn falch o fod yn byw neu’n gweithio o fewn y pentref.

Ein prif nodau yw:

  • Galluogi trigolion a sefydliadau ym Mhenparcau i fanteisio’n llawn ar gyllid ac adnoddau sydd ar gael i’r ardal.
  • Dod ag unigolion, grwpiau a chyrff at ei gilydd i bennu anghenion hirdymor Penparcau.
  • Bod yn gorff galluogi i ariannu’n uniongyrchol brosiectau penodol yn yr ardal.
  • Yn sail i’r uchod i gyd mae gwerthoedd ac egwyddorion Datblygu Cymunedol fel sydd wedi’u cynnwys yn y SGCDC…..y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol.

Corff datblygu cymunedol wedi’i wreiddio yn y gymuned ydym ni er mwyn hwyluso, cynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau o fewn ac ar draws cymuned Penparcau. Mae ein gwaith ni wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion datblygu cymunedol y manylir arnynt yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol (SGCDC). Rydym yn ceisio rhoi amlygrwydd i’r pentref, annog ymgysylltiad cymunedol, magu cydlyniant cymunedol, hybu cynhwysiant cymdeithasol a gwella cyfleusterau ac amwynderau Penparcau.

Rydym yn adeiladu tîm cryf a chynhwysol o wirfoddolwyr cymunedol. Mae gennym ni i gyd sgiliau a doniau unigol i wneud cyfraniad cadarnhaol, ymunwch â ni a helpwch ag amrywiaeth eang o swyddogaethau a thasgau, yn rhai bach neu’n rhai mawr. Os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio neu ffoniwch y swyddfa ar 01970 611099.