Cwiltwyr Maldwyn ydy grwp o Ferched sydd yn  gwario oriau o amser yn gwneud gwaith cwiltio o bob  math. Maent yn cyfarfod yng Nghanolfan Cymunedol Carno, ac mae nifer o’r aelodau yn dod o tu allan i’r pentref. Maent yn codi arian i elusennau ac achosion da ac hyd at y pendemig roeddynt yn cael arddangosfa flynyddol anghygoel yn y Ganolfan i ddangos eu gwaith.

Dywedodd ei Llywydd Christine “Ein Elusen eleni yw Hope House, hosbis y plant, ac rydym wedi gallu anfon siec o £400 atynt.

Mae aelodau’r grwp bob amser yn brysur, yn gwneud cwiltiau ar gyfer ffrindiau a theulu, ond maen nhw bob amser yn dod o hyd i amser i gefnogi achos da. Oherwydd eu caredigrwydd a’u haelioni, roedd yn bosibl rhoi 67 cwilt ar gyfer yr elusen Project Linus. Mae Project Linus yn elusen sy’n rhoi cwiltiau a blancedi i fabanod a phlant sydd mewn profedigaeth, wedi bod yn sâl ac wedi gorfod mynd i’r ysbyty neu fynd i loches. Roedd y cwiltiau’n amrywio o faint babanod newydd-anedig hyd at faint gwely sengl. Heddiw ymwelodd Jenny a Janet, cydlynwyr Prosiect Gogledd Ceredigion Linus, i gasglu ein cwiltiau y byddant yn eu dosbarthu yn ardal Aberystwyth.

Nawr bod gan y cwiltwyr ychydig o le ychwanegol yn eu hystafelloedd gwnïo, byddant yn mynd adref ac yn cychwyn prosiectau newydd.

Llongyfarchiadau i’r grwp am waith bendigedig a choeliwch chi fi mae eu harddangosfeydd blynyddol (gobeithio y flwyddyn nesaf nawr) yn werth ymweld a nhw.