Mae’r grŵp Celfyddyd a Cherddoriaeth yn galluogi pobl i ddod ynghyd i drafod a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â Chelfyddyd (yn yr ystyr ehangaf), a Cherddoriaeth. Fel rhan o (elusen) Fforwm Cymunedol Penparcau, ein nod yw rhoi’r cyfle i bobl gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sy’n berthnasol i thema’r grŵp. Rydym wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, a Phrifysgol Aberystwyth yn ogystal ag artistiaid lleol. Mae gennym ddiddordeb mewn rhychwant eang o weithgareddau cerddorol. Y llynedd cawsom rodd garedig o gyfres o docynnau i Ŵyl Gerddoriaeth Aberystwyth, yr aeth amryw o bobl o’r gymuned iddi. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth, a Thechnoleg mewn cerddoriaeth ac yn y Celfyddydau.