Mae’n bleser gan Fforwm Cymunedol Penparcau gyhoeddi ein bod wedi ennill y wobr Annog Cymuned o seremoni wobrwyo ddigidol gyntaf Menter Aberystwyth ar gyfer Gwobrau Aber First. Gwobrau yw’r rhain sydd wedi’u cynllunio i ddathlu ein busnesau cymunedol a lleol. Ni hefyd yw’r Enillwyr Cyffredinol.

Rydym yn hynod falch ac yn ddiolchgar o dderbyn yr acolâd hwn ond yn bwysicach fyth yn falch o bob unigolyn sy’n ymwneud â’r Fforwm.