Fforwm Cymuned Penparcau
Corff datblygu cymunedol wedi’i wreiddio yn y gymuned ydym ni er mwyn hwyluso, cynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau o fewn ac ar draws cymuned Penparcau. Mae ein gwaith ni wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion datblygu cymunedol y manylir arnynt yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol (SGCDC). Rydym yn ceisio rhoi amlygrwydd i’r pentref, annog ymgysylltiad cymunedol, magu cydlyniant cymunedol, hybu cynhwysiant cymdeithasol a gwella cyfleusterau ac amwynderau Penparcau.
Beth Sydd Ymlaen?
Mae gennym ystod eang o ddigwyddiadau, yn rhai untro yn ogystal â digwyddiadau wythnosol a misol rheolaidd. Fe gewch wybod rhagor drwy edrych ar ein calendr digwyddiadau, neu hefyd drwy ddarllen am ein grwpiau a’n prosiectau. Os hoffech chi gymryd rhan, da chi, cysylltwch!
Amdanom
Archwiliwch y rhan hon o’n gwefan i ddarllen rhagor amdanom ni – a hynny’n cynnwys sut i wirfoddoli gyda ni a llogi ystafelloedd, gwybodaeth am ein tîm a rhagor.
Prosiectau
Byddwn ni’n rhedeg amryw o brosiectau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Prosiect Archaeoleg Pendinas. Mae croeso cynnes i bawb.
Caffi Gwenallt
Mae ein Caffi ni ar agor yn ddyddiol, ar gyfer brecwast, cinio canol dydd neu gacenni a danteithion. Gallwn ni hefyd gynnig dewisiadau bwffe ar gyfer digwyddiad, ac arlwyo ichi os llogwch chi ystafell gyda ni! I gael gwybod rhagor, galwch ni ar 01970 611 099.
Man Cyswllt i Feteraniaid
Bydd ein swyddogaeth ni fel y partner dynodedig yng Ngheredigion yn cynnwys cydlynu a hwyluso gweithgareddau i feteraniaid a’u dibynyddion, a darparu help mentora ac arwyddbostio at gymorth arbenigol lle bo angen, gan gydweithio’n agos â’r partneriaid yng Nghyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion i ddarparu cyfleoedd cymorth a hyfforddiant i feteraniaid a’u teuluoedd o fewn Ceredigion.
Cymerwch Ran
Mae gennym swyddi a lleoedd i wirfoddolwyr ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn croesawu newydd-ddyfodiaid i’r Fforwm a rhai sydd wedi’n helpu ni o’r blaen fel ei gilydd. Yn ystod misoedd yr haf byddwn ni’n arbennig o brysur, ac yn falch bob tro o gael pâr ychwanegol o ddwylo. Rydym hefyd yn rhan o’r cynllun Bancio Amser, felly bydd eich oriau o wirfoddoli’n cael eu cofnodi.
Fforwm Ifanc Penparcau
Ein Newyddion a’n Cyhoeddiadau Diweddaraf
Prosiect Creu Murluniau
Gwnewch eich marc mewn clai ar weithdy creu murluniau. Cynhelir y gweithdy 10.30-3yp a ffocysir ar grey marciau a phatrymau ar glai gan ddefnyddio amrywiaeth o gelfi i creu murlun haniaethol, gweadog. Ceir cyfle i sgleinio'r murlun ar ddyddiad i'w gadarnhau bellach...
Gwneud y Nadolig yn Hapus i Bawb
Bydd y Nadolig yn Yr Hwb yn ychydig wahanol eleni. Rydyn ni'n gofyn i bawb baentio, darlunio neu papier mache wyneb ceirw yn eu steil unigol eu hunain a'i popio yn eu ffenest. Esgus perffaith arall i ddangos ychydig o greadigrwydd ac ysbryd y Nadolig! Darllenwch y...
Brwydr y Bwgan Brain
Brwydr y Bwgan Brain - Yr Hwb yn enill cystadleuaeth Bwgan Brain Cered – Menter Iaith Ceredigion. Fyddwn yn mynd ymalen I’r cystadleuaeth Cenedlaethol.

Digwyddiadau Sydd i Ddod
Mae gennym ystod o ddigwyddiadau ymlaen yn yr Hwb, gan gynnwys digwyddiadau wythnosol a misol. Fe welwch ein calendr llawn drwy roi clec yn y fan hon.
A oeddech yn gwybod ein bod ni hefyd yn cynnig llogi ystafelloedd ac arlwyo? Os oes gennych ddigwyddiad yn yr arfaeth, a chithau’n chwilio am leoliad, pam na ddewch chi heibio i weld yr hyn y gallwn ni ei gynnig?