3ydd hyd y 10fed o Ebrill 2019
Mae’r Hwb Cymunedol ym Mhenparcau wedi cael cwpl o wythnosau llwyddiannus yn cynnal llawer o weithgareddau gan gyrff yn lleol. Fe fuodd y disgo ar gyfer Dydd y Trwynau Coch a gynhaliwyd yn yr Hwb gan Ieuenctid Penparcau er budd Comic Relief yn ddigwyddiad campus, fe gafodd pawb hwyl aruthrol ac fe godwyd £70 i achos gwych. Fe fwynhaodd rhai aelodau o Ieuenctid Penparcau wibdaith addysgol a difyr i’r Big Bang Science Fair ym Birmingham. Buodd y noson cyri a chwis hefyd yn llwyddiant mawr, ac amryw o dimau’n cystadlu, fe aiff yr elw i gyd at ragor o brosiectau a digwyddiadau i bobl ifainc.
Yn ystod y pythefnos hwn fe gafodd y fforwm ei drip siopa cyntaf ar gyfer pobl 60+ i Morrisons a fydd yn ddigwyddiad bob pythefnos ar ddydd Mawrth – a’r wythnos am yn ail yn glwb 60+ wedi’i leoli yn yr Hwb. Fe gododd diwrnod Calonnau Cymru £150, roedd preswylwyr o Hafan y Waun ymysg mwy na 100 o bobl a oedd yn bresennol ac fe gafodd pawb ddiwrnod gwych!
Bydd y caffi ar agor drwy gydol yr wythnos fel arfer yn cynnig diodydd a bwyd sy’n werth ffantastig am arian, ac yn ogystal mae llawer o ddigwyddiadau ymlaen yr wythnos hon yn yr Hwb na fyddwch chi eisiau eu colli! Fel bob amser, mae croeso i bawb;
Dydd Mercher 3ydd o Ebrill – Bydd Cyfarfod Cychwynnol Sied y Dynion yn digwydd 7-8.30pm. Mae’r sesiwn hon yn berffaith i unrhyw un sydd wedi ymddeol, wedi hanner ymddeol neu sydd ond yn chwilio am ffrindiau newydd. Mae’r Hwb wedi dod ynghyd â Siediau Dynion Cymru, ac os ydych chi’n hoffi’r syniad o wneud neu greu pethau a dechrau rhai prosiectau cymunedol penigamp ymunwch â ni neu galwch heibio unrhyw bryd i gael sgwrs.
Dydd Iau 4ydd o Ebrill – Bingo 2.30-3.30pm
Dydd Gwener 5ed o Ebrill – Sesiwn Ieuenctid – Noson Gemau 6-8pm sydd fel arfer yn cynnwys gemau, crefftau, cymdeithasu, cynllunio digwyddiadau, ymweliadau lleol a siaradwyr – ond, yn bwysicaf oll, hwyl.
Dydd Llun 8fed o Ebrill – Dosbarth Dawns Charlotte 4.30-7.30pm (cysylltwch â Charlotte i gael rhagor o fanylion 07488 230058).
Dydd Mawrth 9fed o Ebrill – Bydd Dosbarthiadau Dawns Charlotte yn rhedeg o 4.30-7.30pm.
Ar yr un pryd, mae Hafan Gwaith Cartref go lewyrchus sy’n rhedeg 4-5pm i blant cynradd hŷn a’r Clwb Gwaith Cartref 6-8pm i bobl ifainc oed ysgol uwchradd – yn ystod y sesiynau hyn gall pobl ifainc fwynhau tameidiau iach i’w bwyta ar yr un pryd â chael yr holl gymorth proffesiynol y mae arnyn nhw ei angen ar gyfer y prosiectau a fydd ganddyn nhw’n fuan a’u gwaith cartref wythnosol. Mae cyfleusterau cyfrifiadurol a phrintio ar gael, hefyd bydd taflenni gweithgaredd a chymorth adolygu ar gyfer llawer o bynciau ar gael yn gyfleus i’r rhai sydd wedi gwneud eu holl waith cartref ond a fyddai’n hoffi dod o hyd.
Dydd Mercher 10fed o Ebrill – Bydd Cyfarfod Sied y Dynion yn digwydd 7-8.30pm. Mae’r sesiwn hon yn berffaith i unrhyw un sydd wedi ymddeol, wedi hanner ymddeol neu sydd ond yn chwilio am ffrindiau newydd. Mae’r Hwb wedi dod ynghyd â Siediau Dynion Cymru, ac os ydych chi’n hoffi’r syniad o wneud neu greu pethau a dechrau rhai prosiectau cymunedol penigamp ymunwch â ni neu galwch heibio unrhyw bryd i gael sgwrs.
Dyddiadau i’ch dyddiadur yn y cyfnod sy’n dod – Sioe Ffasiwn i Fforwm Cymunedol Penparcau a Hafan y Waun 3ydd o Fai 2019 7pm-hwyr. Plant am ddim, Oedolion £8 i gynnwys gwydraid o prosecco a canape wrth ddod i mewn – achos lleol gwych a noson benigamp i bawb, mynnwch eich tocynnau o’r Hwb nawr!
Digwyddiad arall sy’n dod ar y 1af o Fehefin 2019 yw ein Diwrnod Treftadaeth Bwylaidd, fe fuodd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol y llynedd felly cadwch y dyddiad – bydd rhagor o fanylion cyn bo hir.