Canolfan Byd Gwaith Aberystwyth De-Orllewin Cymru: Fe ymrwymodd Hwb Cymunedol Penparcau i Hyderus o ran Anabledd yn ystod Lletygarwch Cymru, a heddiw fe gymeron nhw gam eto i arddangos eu hymroddiad i’r cynllun drwy gynnig lleoliad fel gwirfoddolwr i’n hymgeisydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Heledd. Mae Heledd eisoes yn gwirfoddoli gyda’r GIG, ond roedd hi am ddatblygu ei sgiliau ymhellach, ac mae hi wedi dewis cefnogi ‘Clwb Llawenydd’ yr Hwb sy’n cynnig cwmnïaeth a sgwrs i bobl hŷn. Mae’r llun yn dangos Heledd gyda Rheolwr yr Hwb, Karen, a’u Swyddog Sgwrs Leol, Claire.