Rydym yn gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iach ac yn saff.  Mae’r tîm yma yn Hwb Cymunedol Penparcau wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi aelodau o’r Gymuned sydd mewn sefyllfaoedd bregus neu sy’n ynysig, ac rydym erbyn hyn wedi sefydlu Tîm Cymorth Penparcau (TCP) fel y gallwn ni weithio o bell a dal i gadw gwasanaethau i fynd orau y gallwn ni. Roeddem yn meddwl rhoi amlinelliad ichi o’r hyn y bydd TCP yn ei wneud.

  1. Grŵp cymunedol gwirfoddol cydlynus yw TCP sy’n perthyn i’r Hwb ac yn gweithio i gefnogi ac i bartneru â Grŵp Meddygol Ystwyth, Meddygfa Padarn ac Eglwys Santes Ann, gan ddarparu cymorth cymunedol blaenoriaethol o fath logistaidd, trefnus ac wedi’i reoli yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19).
  2. Dan gyfarwyddyd rheolwr meddygfa Grŵp Meddygol Ystwyth, rydym erbyn hyn yn darparu gwasanaeth cymorth dyddiol sy’n targedu’r rhai yn y sefyllfaoedd meddygol mwyaf bregus o fewn cymuned Penparcau.  Rydym hefyd yn cefnogi eglwys Santes Ann, gan ddarparu gwasanaeth dosbarthu iddyn nhw sy’n fawr ei angen i anfon rhai cyflenwadau bwyd.
  3. Mae tîm yn cael ei anfon bob dydd o Hwb Cymunedol Penparcau yn ein bws mini ac rydym wedi sefydlu gwasanaeth dosbarthu yn y bore, amser cinio ac amser te. Yn flaenoriaeth bennaf, mae rhaid cyflawni system gymorth ddibynadwy i’r gymuned i helpu i wrthsefyll pandemig y Coronafeirws.
  4. Mae trefn sefydlog yn hanfodol, ac er mwyn i TCP lwyddo a chael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy rhaid inni ddeall nad gwasanaeth brys mohonom, na grŵp cymorth yn y cartref na gofal ond y byddwn ni’n rhoi cymorth i bobl mewn sefyllfa fregus yn y gymuned o ran codi presgripsiynau ac ambell i wasanaeth gollwng-a-gadael.

Ar adeg anodd ac ansicr, gallwn ni ddibynnu ar y bobl dda yn y gymuned i ymateb a sefyll yn dalsyth i roi cymorth i’r rhai yn yr angen mwyaf. Mae TCP yn bwriadu rhoi’r help llaw hwnnw ac rydym erbyn hyn yn rhedeg gwasanaeth 7 niwrnod yr wythnos, â 4 gwirfoddolwr yn gweithio sifft y bore a 4 gwirfoddolwr yn gweithio sifft y prynhawn. Mae’r swyddfa hefyd ar agor o 09:00 – 15:00 bob dydd i dderbyn galwadau ffôn yn unig.  Dylai hyn roi pwynt cyswllt hanfodol i’r gymuned lle gallan nhw gael gwybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd gan staff a gwirfoddolwyr ein Hwb sydd â gwybodaeth wrth law.  Ffoniwch 01970 611099 yn ystod yr oriau hynny.

Yn y cyfamser cadwch yn saff – daliwch ati i olchi’ch dwylo!

Karen Rees Roberts (Rheolwr y Fforwm)