Hwb
Fforwm Cymuned Penparcau
previous arrow
next arrow

Fforwm Cymuned Penparcau

Corff datblygu cymunedol wedi’i wreiddio yn y gymuned ydym ni er mwyn hwyluso, cynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau o fewn ac ar draws cymuned Penparcau. Mae ein gwaith ni wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion datblygu cymunedol y manylir arnynt yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol (SGCDC). Rydym yn ceisio rhoi amlygrwydd i’r pentref, annog ymgysylltiad cymunedol, magu cydlyniant cymunedol, hybu cynhwysiant cymdeithasol a gwella cyfleusterau ac amwynderau Penparcau.

Beth Sydd Ymlaen?

Mae gennym ystod eang o ddigwyddiadau, yn rhai untro yn ogystal â digwyddiadau wythnosol a misol rheolaidd. Fe gewch wybod rhagor drwy edrych ar ein calendr digwyddiadau, neu hefyd drwy ddarllen am ein grwpiau a’n prosiectau. Os hoffech chi gymryd rhan, da chi, cysylltwch!

Amdanom

Archwiliwch y rhan hon o’n gwefan i ddarllen rhagor amdanom ni – a hynny’n cynnwys sut i wirfoddoli gyda ni a llogi ystafelloedd, gwybodaeth am ein tîm a rhagor.

Prosiectau

Byddwn ni’n rhedeg amryw o brosiectau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Prosiect Archaeoleg Pendinas. Mae croeso cynnes i bawb.

Caffi Gwenallt

Mae ein Caffi ni ar agor yn ddyddiol, ar gyfer brecwast, cinio canol dydd neu gacenni a danteithion. Gallwn ni hefyd gynnig dewisiadau bwffe ar gyfer digwyddiad, ac arlwyo ichi os llogwch chi ystafell gyda ni! I gael gwybod rhagor, galwch ni ar 01970 611 099.

Man Cyswllt i Feteraniaid

Bydd ein swyddogaeth ni fel y partner dynodedig yng Ngheredigion yn cynnwys cydlynu a hwyluso gweithgareddau i feteraniaid a’u dibynyddion, a darparu help mentora ac arwyddbostio at gymorth arbenigol lle bo angen, gan gydweithio’n agos â’r partneriaid yng Nghyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion i ddarparu cyfleoedd cymorth a hyfforddiant i feteraniaid a’u teuluoedd o fewn Ceredigion.

Cymerwch Ran

Mae gennym swyddi a lleoedd i wirfoddolwyr ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn croesawu newydd-ddyfodiaid i’r Fforwm a rhai sydd wedi’n helpu ni o’r blaen fel ei gilydd. Yn ystod misoedd yr haf byddwn ni’n arbennig o brysur, ac yn falch bob tro o gael pâr ychwanegol o ddwylo. Rydym hefyd yn rhan o’r cynllun Bancio Amser, felly bydd eich oriau o wirfoddoli’n cael eu cofnodi.

Fforwm Ifanc Penparcau

Ni yw llais y genhedlaeth iau ym Mhenparcau, rydym wedi’n sefydlu i hwyluso gwelliannau o fewn y gymuned a chynorthwyo cyrff lleol.

Byddwn ni’n cwrdd ar nos Wener rhwng 6pm ac 8pm.

Ein Newyddion a’n Cyhoeddiadau Diweddaraf

Tîm Cymorth Penparcau (TCP)

Rydym yn gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iach ac yn saff.  Mae’r tîm yma yn Hwb Cymunedol Penparcau wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi aelodau o’r Gymuned sydd mewn sefyllfaoedd bregus neu sy’n ynysig, ac rydym erbyn hyn wedi sefydlu Tîm Cymorth Penparcau (TCP)...

read more
Rydym Ni’n Hyderus o ran Anabledd

Rydym Ni’n Hyderus o ran Anabledd

Canolfan Byd Gwaith Aberystwyth De-Orllewin Cymru: Fe ymrwymodd Hwb Cymunedol Penparcau i Hyderus o ran Anabledd yn ystod Lletygarwch Cymru, a heddiw fe gymeron nhw gam eto i arddangos eu hymroddiad i’r cynllun drwy gynnig lleoliad fel gwirfoddolwr i’n hymgeisydd...

read more
Prosiect APT

Prosiect APT

Fforwm Cymuned Penparcau a Chanolfan Y Celfyddydau yn Cydweithio ar Brosiect am Flwyddyn Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gweithio ar y cyd gyda Fforwm Cymuned Penparcau ar brosiect am flwyddyn sy’n dwyn y teitl ‘APT: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a...

read more

Digwyddiadau Sydd i Ddod

Mae gennym ystod o ddigwyddiadau ymlaen yn yr Hwb, gan gynnwys digwyddiadau wythnosol a misol. Fe welwch ein calendr llawn drwy roi clec yn y fan hon.

A oeddech yn gwybod ein bod ni hefyd yn cynnig llogi ystafelloedd ac arlwyo? Os oes gennych ddigwyddiad yn yr arfaeth, a chithau’n chwilio am leoliad, pam na ddewch chi heibio i weld yr hyn y gallwn ni ei gynnig?