Hwb Cyn-Filwyr

Mae Colin Jones MBE wedi cael ei benodi i swyddogaeth newydd Mentor Cymheiriaid Hwb Feteraniaid Lluoedd Arfog Ceredigion. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi Fforwm Cymunedol Penparcau fel y partner, y lleoliad a’r corff delfrydol i hwyluso hwb cymunedol feteraniaid y Lluoedd Arfog yn y sir. Bydd swyddogaethau Colin yn cynnwys cydlynu a hwyluso gweithgareddau i feteraniaid a’u dibynolion, darparu cymorth mentora a chyfeirio pobl at gefnogaeth arbenigol lle bo angen, gan gydweithio’n agos â phartneriaid Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion i ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddiant i feteraniaid a’u teuluoedd yng Ngheredigion. Bydd Colin hefyd yn trefnu ymweliadau a chlinigau wedi’u cynllunio’n fisol yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi.

Gellir cysylltu â Colin drwy e-bost: veterans@penparcau.cymru neu ffôn poced: 07761511272, neu dilynwch y grŵp ar Facebook: Hwb Feteraniaid Penparcau neu Twitter: Hwb Feteraniaid Penparcau.

Porth y Feteraniaid

Y man cyswllt cyntaf i feteraniaid sy’n chwilio am gymorth.

Byddwn yn rhoi feteraniaid a’u teuluoedd mewn cysylltiad â’r cyrff sydd yn y lle gorau i helpu â’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen – o ofal iechyd a thai i gyflogadwyedd, arian, perthnasau personol a mwy.

Ewch i:- https://www.veteransgateway.org.uk/

Clwb Brecwast y Feteraniaid

Ail Ddydd Sadwrn pob mis 10:30 – 12:00 yn Hwb Cymunedol Penparcau

Cyfamod y Lluoedd Arfog – Gwybodaeth Benodol i Feteraniaid

Mae nifer o fesurau rhanbarthol yn eu lle i ddarparu cefnogaeth i bersonél y Lluoedd Arfog – gan gynnwys Aelodau Wrth Gefn, Feteraniaid a’u teuluoedd er mwyn sicrhau nad yw’r grŵp hwn yn dioddef o anfantais o ganlyniad i’w Gwasanaeth.

 

IECHYD

Polisi Triniaeth â Blaenoriaeth – WHC 41 2017

Mae gan bob feteran o’r Lluoedd Arfog hawl i gael mynediad â blaenoriaeth at ofal gan y GIG (gan gynnwys gofal mewn ysbyty a gofal sylfaenol neu gymunedol) am unrhyw gyflyrau (meddyliol a chorfforol) sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â’u gwasanaeth milwrol neu o fod yn ganlyniad iddo). Blaenoriaeth yw hon dros gleifion â lefel debyg o angen clinigol ac i gyflyrau cysylltiedig â gwasanaeth YN UNIG. Ni roddir blaenoriaeth i feteraniaid dros bobl ac arnynt angen clinigol mwy.

 

GIG Feteraniaid Cymru

Gwasanaeth gan y GIG yw hwn i feteraniaid â chyflyrau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth; mae taflen GIG Feteraniaid Cymru ar gyfer Hywel Dda ar gael yn y fan hon.

 

Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (GIMGC)

Corff gwirfoddol, elusen, a chwmni cyfyngedig drwy warant yw GIMGC, sy’n cefnogi cyrff gwirfoddol â diddordeb mewn iechyd meddwl. Mae gan GIMGC drosolwg rhagorol o ddarpariaeth gan y 3edd sector yn y maes hwn ar draws y rhanbarth.

 

TAI

Os nad oes gan Feteran a’u teulu unlle i fynd heno ac os oes arnynt angen cyngor am dai ar frys yna cysylltwch, os gwelwch yn dda, â: · Sir Gaerfyrddin · Ceredigion · Sir Benfro

 

Taflen Wybodaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog – Mai 19

Awdur: Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro JCWatt@carmarthenshire.gov.uk

 

CYFLOGAETH

Mae’r gyfradd gyflogaeth i Feteraniaid, sef 81%, yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 75.5%. Meddai Tobias Ellwood, y Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Feteraniaid, “Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog yn gadael ag ystod wych o sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys arweinyddiaeth, gwaith tîm a dyfeisgarwch. Gall sefydliadau elwa’n fawr o’u profiad.” Eto, y mae angen peth help ar rai Feteraniaid i bontio â chyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn ac, ar y cyd â rhanddeiliaid, wedi cynllunio Llwybr Cyflogaeth ynghyd â phecyn cymorth i Gyflogwyr i’w ddefnyddio’n ymarferol.

 

ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU (AGPh)

Mae’r AGPh yn flaengar iawn yn eu cefnogaeth i Feteraniaid a theuluoedd y Lluoedd Arfog. Mae gan bob Canolfan Waith Hyrwyddwr Lluoedd Arfog ac mae rhanbarth De-Orllewin Cymru wedi cael ei hamlygu ar draws y DU am ei Harfer Dda mewn gweithio gyda phersonél y Lluoedd Arfog. Dylid felly annog Feteraniaid i roi gwybod i staff yr AGPh eu bod naill ai’n Ymadawyr Gwasanaeth neu o deulu’n perthyn i’r Lluoedd Arfog.

 

CEFNOGAETH

Angen help i gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn ein hardal ni? Mae gan Borth y Feteraniaid gysylltiadau â chyrff sydd yn y lle gorau i helpu â’r wybodaeth, y cyngor a’r gefnogaeth y mae arnoch eu hangen – o ofal iechyd a thai i gyflogadwyedd, arian, perthnasau personol a mwy.

 

Hybiau

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn darparu cyllid i’r Hybiau Rhanbarthol canlynol ddarparu arwyddbostio, cefnogaeth a chymdeithas i Feteraniaid y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd:

Sir Gaerfyrddin: · Hwb Rhydaman · Hwb Caerfyrddin · Hwb Llanelli

Ceredigion: · Fforwm Cymunedol Penparcau

Sir Benfro: · VC Gallery

 

Help for Heroes

Mae’r Band of Brothers and Sisters Fellowship Hub, Cyngor Un-i-Un a Sesiynau Adfer Chwaraeon i gyd ar gael yng Nghaerfyrddin.