Llogi Ystafelloedd

Mae gennym nifer o ystafelloedd ar gael i’w llogi yma yn yr Hwb. £15.00 yr awr yw cost pob ystafell ac maent i’w bwcio am leiafswm o ddwy awr ar y tro. Rydym yn hyblyg o ran y dewis o osodiad ar gyfer unrhyw un o’n hystafelloedd, a dyma’r ceisiadau mwyaf poblogaidd y byddwn ni’n eu cael o ran gosodiad:

Os hoffech chi gael trefnu’ch ystafell mewn ffordd nad yw wedi’i chrybwyll uchod, rhowch wybod inni ac fe wnawn ein gorau i gwrdd â’ch anghenion.

Mae amodau llogi i’w cael yn y fan hon: Amodau Llogi.

Y Brif Neuadd

Mae’r Brif Neuadd ar gael i’w llogi ar gyfer partïoedd neu gyfarfodydd. Gall yr ystafell fawr hon gymryd hyd at 100 o bobl ar eu sefyll neu 50 ar eu heistedd. Mae byrddau a chadeiriau ar gael i’w defnyddio yn yr ystafell hon fel y mae cegin fach â sinc, meicrodon, tegell ac oergell. Gallwn ni ddarparu cyfleusterau taflunydd yn yr ystafell hon neu fe gewch ddod â’ch rhai eich hunain.

Ystafell Hyfforddiant

Mae’r ystafell hyfforddiant ar gael i’w llogi ar gyfer grwpiau bychain o hyd at 17 o bobl. Mae gennym gyfleusterau taflunio llawn yn yr ystafell hon yn ogystal â bwrdd gwyn.

Yr Ystafell Un i Un

Mae’r ystafell fach hon ar gael ar gyfer cyfarfodydd preifat, a gall gymryd hyd at 4 o bobl.

Annexe