Ers gwirfoddoli gyda’r Fforwm, rwy’ wedi gallu mynd allan a chwrdd â phobl newydd. Nid hynny’n unig ond mae hi wedi codi fy hyder a lleihau fy ngorbryder i’r pwynt lle galla’ i jyst adael y tŷ nawr lle o’r blaen byddwn i’n cymryd awr neu ddwy oherwydd fy ngorbryder. Nid dim ond y fi y mae’r Fforwm wedi’i helpu ond mae e wedi rhoi mwy o hyder i fy 3 merch. Mae mwy o ffrindiau gan fy merch 12 oed, ac mae hi wedi dod allan o’i chragen. Hefyd, mae gan fy merch 9 mlwydd oed lot o ffrindiau hyfryd a hyder gwych. Yn bennaf oll mae fy merch 4 oed wedi gwella gymaint ers inni fod yn cymryd rhan. Rhwng popeth, mae’r Fforwm a’r tîm wedi rhoi’r dewrder a’r nerth i fi, fam sengl, fynd yn berson cryfach, er gwell.
Sam Lewis, Gwirfoddolwr yn Fforwm Cymunedol Penparcau
Eisiau Gwirfoddoli?
Cysylltwch os ydych yn dymuno gwirfoddoli gyda Fforwm Cymunedol Penparcau.
Rydym yn chwilio’n benodol am wirfoddolwyr i’r swyddogaethau canlynol ar hyn o bryd:
- Gwirfoddolwyr i’r Caffi
- Gwirfoddolwyr ar gyfer y We/TG
- Gwirfoddolwyr Gwaith Ieuenctid (yn enwedig gwirfoddolwyr gwryw)
- Crefftwr/Crefftwraig i wneud/trwsio pethau yn ôl yr angen