Gwobrau

Gwobr gan Uchel-Siryf Dyfed

Roedd aelodau o Fforwm Cymunedol Penparcau wrth eu bodd o dderbyn gwobr gan Uchel-Siryf Dyfed i gydnabod cyfraniadau gwerthfawr ac elusennol at fywyd lleol a’r gymuned. Mae’r wobr yn dathlu gweithgareddau gwirfoddol ac ymroddiad arbennig i wella bywydau unigolion a’r gymuned ehangach. Cyflwynwyd y wobr yng ngwesty’r Conrah y tu allan i Aberystwyth.

(Bryn Jones, Sam Lewis, Susan Balsom, Dylan Jones, Freya Walker)

Gwobrau Trydedd Sector Cymru CGGC 2015

Corff wedi’i seilio yn y gymuned yw Fforwm Cymunedol Penparcau sy’n mynd ati’n weithredol i ymgysylltu â’i gymuned i ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau cynaliadwy a chynhwysol er budd pawb. Mae Penparcau, y pentref, wedi’i ffurfio’n bennaf o ystad dai fawr ar gyrion Aberystwyth sy’n cynnwys rhyw 1,200 o aelwydydd â mwy na 3,200 o drigolion, ac 800 o’r rheini’n blant a phobl ifainc. Dengys arolwg diweddar fod 39.5% o’r 800 hynny o bobl ifainc yn byw mewn tlodi. Pan nad oedd yr ardal yn gymwys ragor i dderbyn cefnogaeth gan Gymunedau’n Gyntaf (rhaglen Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi) ffurfiodd y trigolion Fforwm Cymunedol Penparcau i hyrwyddo a hwyluso datblygiad a gweithgareddau cymunedol cynaliadwy hirdymor. Nod y Fforwm yw creu cymuned gynhwysol fywiog lle gall pobl deimlo’n saff ac yn falch o fod yn byw neu’n gweithio yn y pentref, a dod ag unigolion, grwpiau a chyrff at ei gilydd i benderfynu anghenion hirdymor Penparcau.

Gwobrau Arwyr Lleol – George Barratt. Dan Nawdd Argraffwyr Cambrian

Fe enwebwyd ein ffrind da ni, George Barratt, ar gyfer y categori ‘Cyfraniad Gorau i’r Gymuned’ ac fe’i enillodd! Mae George yn un o Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau, ac y mae wedi gweithio’n ddiflino dros gymuned Penparcau ers i’r Fforwm gael ei sefydlu. Peth gwych oedd ei weld e’n ennill y wobr hon ac yn cael ei gydnabod am yr holl waith y mae’n ei wneud dros y gymuned. Radio Ceredigion sy’n trefnu’r Gwobrau, ac fe’u noddwyd gan Wilmot Dixon yn y flwyddyn honno.