Diffibrilwyr
Mae pum diffibriliwr wedi’u lleoli ar hyn o bryd o amgylch ardal Penparcau.
- Y tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon ar Fin y Ddôl
- Wrth y Safle Bysiau ar Heol Tyn y Fron
- Y tu allan i Spar
- Y tu allan i’r Neuadd Goffa
- Yn Hwb Cymunedol Penparcau
Beth yw Diffibriliwr?
Dyfais hawdd ei defnyddio yw Diffibriliwr sy’n rhoi sioc drydanol i galon claf pan fo wedi cael ataliad ar y galon.
Ystyr ataliad ar y galon yw bod y galon yn stopio pwmpio gwaed o gwmpas y corff, peth sy’n aml yn cael ei achosi gan broblem drydanol yn y galon. Gall Diffibriliwr siocio’r galon yn ôl i rythm normal.
Mae pob eiliad yn cyfrif pan fo rhywun yn cael ataliad ar y galon. Mae cyfraddau goroesi’n wael y tu hwnt ar ddim ond 3%, ond, pan ddefnyddir Diffibriliwr, gall y cyfraddau godi i gymaint â 50%, felly mae gweithredu’n brydlon yn hanfodol bwysig. Dyna pam yr ydym am sicrhau nad oes neb yng Nghymru byth fwy na 100m i ffwrdd o ddiffibriliwr a all achub bywyd.
A oes rhaid imi gael hyfforddiant i ddefnyddio Diffibriliwr?
Nac oes yw’r ateb cryno yn y fan hon. Mae Diffibrilwyr wedi’u dylunio’n benodol i gael eu defnyddio gan bawb ac unrhyw un, felly nid oes rhaid ichi gael hyfforddiant cyn defnyddio Diffibriliwr. Eto, rydym yn gwybod y gall y syniad godi ofn ar rywun, felly rydym yn argymell yn gryf i bawb ddysgu adfywio cardio-anadlol a chael hyfforddiant ar Ddiffibrilwyr fel y bydd ganddynt yr hyder i’w ddefnyddio, os bydd angen iddynt ryw dro. Dyfeisiau clyfar dros ben yw Diffibrilwyr – byddant yn rhoi cyfarwyddiadau llais ac arwyddion golau i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Beth os siociaf i rywun am nad ydwyf yn gwybod beth rwyf yn ei wneud?
Peidiwch â phoeni – NI wnaiff y Diffibriliwr roi dim sioc os nad oes angen un. Gall y ddyfais synhwyro a yw’r galon wedi stopio, neu a yw mewn rhythm annormal. Fe wnaiff roi sioc i’r claf a fydd, gobeithio, yn ailddechrau’r galon mewn rhythm normal.
Pa mor debygol yw hi y bydd angen imi ddefnyddio Diffibriliwr?
Gobeithiwn na fydd angen ichi wneud byth, ond ag 8000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i’r ysbyty bob blwyddyn, mae bob amser ryw ychydig o siawns y gallech chi gamu i mewn ac achub bywyd ryw ddydd. Rydym am annog cymaint o bobl ag y bo modd i ddysgu adfywio cardio-anadlol a chael hyfforddiant ar Ddiffibrilwyr, fel y byddwch yn gwybod beth i’w wneud os digwydd y gwaethaf.