Prosiect Plannu Penparcau

4ydd Mehefin

Mae Prosiect Plannu Penparcau yn teimlo’n gyffrous iawn ynglyn a dechrau’r prosiect Newydd hwn.  Rydym yn bwriadu galluogi preswylwyr Penparcau I dyfu eu bwyd eu hunain, waeth pa mor fach sydd ganddyn nhw gyda chymorth Fforwm Cymunedol Penparcau.  Byddwn yn creu lle I dyfu gwahanol eginblanhigion llysiau, ffrwythau a pherlysiau I’w dosbarthu I’r gymuned.  Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn cymeryd rhan ac y gallwn wneud hwn yn brosiect tyfu bwyd cymunedol cynaliadwy.  Rydym yn bwriadu cofnodi ein cynnydd a’r y dudalen hon a gweld eich hadau yn dod yn fwyd.  Os hoffech chi mwy o wybodaeth neu os hoffech chi gymryd rhan neu ofyn cwestiwn e bostiwch conversations@penparcau.cymru

 

16eg Mehefin

Mae’r wyth plannwr ym Mhenparcau wedi’u plannu ac mae’n nhw’n edrych yn hyfryd, Diolch enfawr I drigolion sy’n cadw llygad arnyn nhw I ni.  Mae gardd yr Hwb yn siapio ac mae gennym berlysiau, llysiau a basgedi crog yn tyfu yno. Rydym yn gweithio gyda Tai Gorllewin Cymru I baentio a phlannu’r planwyr yn Cae Job felly Diolch yn fawr I Rhiannon Ling a’r preswylydd Johanna Taylor sydd yn arwain ar hyn. Diolch yn fawr I Karen Rees Roberts Rheolwraig yr Hwb am ei rhodd enfawr o gompost, Morrisons am eu rhodd fendigedig o flodau, Katie Jones am ei rhodd garedig o gasgen o ddwr, Gweneira Raw Rees & Charlie Kingsbury am ein helpu gyda rhodd blodau’r Cyngor, a phob un o trigolion Penparcau am eich adborth gwych.

 

22ain Mehefin

Mae’r ardd yn dod yn ei flaen ac yn llu o lywiau prydferth. Diolch yn fawr i’r preswylydd lleol John McTavish a’r ferch Janet, i Dylan a Rhian Jones am ei amrywiaeth hyfryd o domatos, nasturtiums a’u blodau haul hyfryd. Mae’r adborth wedi bod yn bositif iawn ac wedi rhoi hwb I foral y pentref. Mae gennym ychwanegiad newydd i’r ardd, ein tylluan.

Mae Tomos sydd yn dair oed wedi bod yn mwynhau gwylio’r ardd yn tyfu ac yn ymweld rhan fwyaf o ddyddiau felly dim ond yn addas iddo enwi’r dylluan ac mae Tomos wedi ei enwi’n Steve, felly cadwch lygad am Steve y Dylluan ar y goeden y tro nesaf y byddwch yn cerdded heibio.

Teulu lleol arall sy’n mwynhau’r ardal yw Betsy a Freddie. Dywedodd eu mam mai dyma eu hoff le i ymwled ac rydyn ni mor falch ein bod ni’n gallu cynnig y lle hyfryd hwn yn yr Hwb. Diolch i nhw am ei cyfraniad o berlysiau ac hefyd i Jan & Phil Thomas am yr addurniadau I’r goeden.

 

27ain Mehefin

Mae Prosiect Plannu Penparcau yn dathlu prosiect cymunedol arall yn Cae Job.  Heddiw oedd y dechrau i dyfu eu bwyd eu hunain gan ddefnyddio hen blanwyr segur. Mae gweithio mewn partneriaeth a’r preswylwyr a Rhiannon Ling Tai Gorllewin Cymru a’r Hwb yn helpu Cae Job I ddod a rhaglen tyfu bwyd cymunedol. Mae’r trigolion lleol Johanna Taylor a Karen Hughes yn mynd i arwain y prosiect cymunedol gwych hwn a bydd yr holl drigolion yn cael dweud eu dewud am yr hyn mae nhw am dyfu. Bydd y prosiect plannu y neu helpu i baentio, cloddio a phlannu llysiau, perlysiau a blodau yn y saith plannwr. Diolch enfawr i Karl Hughes a Jon Evans am hwyluso symud y planwyr heddiw, er gwaethaf y glaw. Diolch enfawr arall i Len Loveridge o Gynnal a Chadw Eiddo LPL am clirio ag am wirfoddoli I gloddio’r planwyr, gwnaethoch Gwaith gwych. Diolch i Rhiannon Ling am ariannu’r prosiect, Y Hwb a’r holl breswylwyr sy’n cefnogi’r prosiect tyfu bwyd cymunedol gwych hwn. Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn cymeryd rhan ac y gallwn wneud hwn yn brosiect tyfu bwyd cymunedol cynaliadwy.  Rydym yn bwriadu cofnodi ein cynnydd a’r y dudalen hon a gweld eich hadau yn dod yn fwyd.  Os hoffech chi mwy o wybodaeth neu os hoffech chi gymryd rhan neu ofyn cwestiwn e bostiwch conversations@penparcau.cymru