Grwp Bywyd Gwyllt Penparcau

Dyma brosiect Natur ein Pentref. Ein nod yw cofnodi’r holl fywyd gwyllt sy’n byw ym Mhenparcau.  Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu defnyddiau a chyllid, yn enwedig y Nineveh Charitable Trust a D’Oyly Carte.

Cliciwch yn y fan hon i weld y Grŵp Facebook.

Efallai y bydd rhaid ichi ofyn am ymuno – fe wnaiff gweinyddwr eich cymeradwyo chi cyn gynted ag y bo modd.

Ambell Sylw am Bwll: pwll Parc y Llyn, Aberystwyth

Cyflwyniad i bwll cymunedol yng Nghymru, gan Meg Kirby

Mae pwll Parc y Llyn wedi’i leoli mewn dôl o borfa arw rhwng ystad dai a chanolfan siopa ar y naill ochr ac afon Rheidol ar yr ochr arall. Mae’r man ar agor i’r cyhoedd. Tir dan berchenogaeth y Cyngor Sir yw ef a reolir er mwyn bywyd gwyllt. Mae’r afon yn rhan o gynllun trydan dŵr i fyny’r afon felly anwadal yw cyflymder y llif. Bydd y Gwas Neidr Eurdorchog, yr Hebogwr Cyffredin a’r Fursen Resog yn aml yn cael eu cofnodi yma ac un tro fe welwyd Mursen Brydferth hefyd.

Fe fu’r pwll yn fridfa dda i frogaod a llyffantod, ond fe sychodd 2 flynedd yn ôl, am fod y leinin wedi diffygio, mae’n debyg.

Yn 2019 fe wnaeth Cyngor Sir Ceredigion, â help ac anogaeth gan grwpiau cymunedol lleol, adnewyddu’r pwll hwn.

Cyflwynwyd planhigion dŵr yn yr hydref a gwelwyd grifft broga a llyffant yn y gwanwyn eleni. Adeg ymweliad gyda’r nos fe gofnodwyd Madfallod Palmwyddog.

Digwyddodd ymweliad cyntaf fel rhan o arolwg arfaethedig tua diwedd Mawrth.

Roedd digonedd o Geffylau Dŵr a Chwyrligwganod, a rhai penbyliaid. Roedd planhigion a oedd yn dechrau ymddangos (Llyriad y Dŵr a Gellesg) yn tyfu’n dda.

Er gwaetha’r sefyllfa â Covid-19, y gobaith yw y gellir mynd ar ragor o ymweliadau byr, anffurfiol fel rhan o’r lwfans ymarfer corff dyddiol.

Gobeithio y daw Gwas y Neidr yn ôl. Fe gadwn ni chi’n hysbys.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Darllenwch erthygl ddiweddaraf Chloe Griffith am Brosiect Natur Ein Pentref, draw ar wefan y Bumblebee Conservation Trust.