Mae People’s Health Trust wedi ymrwymo i fod yn gyllidwr a arweinir gan bobl leol. Ystyr hyn yw ein bod yn dymuno ymgysylltu â chymunedau lleol yn y tymor hirach, fel y gallant hwy benderfynu sut a phryd y caiff yr arian ei wario o fewn eu hardal leol i’w gwneud yn lle gwell byth i dyfu, byw, gweithio a heneiddio ynddo.
Model ariannu hyblyg yw Sgyrsiau Lleol a arweinir gan yr hyn y mae ei eisiau ar bobl leol.
Pobl leol sy’n adnabod eu cymunedau lleol orau. Maent yn gwybod:
- Beth y mae’r gymuned yn ei wneud yn dda
- Beth y mae ei eisiau i wneud pethau’n well byth
- Ble a phryd y mae ei angen
- Sut i wneud i newid ddigwydd yn eu cymunedau.
Rydym yn credu mai un ffordd bwysig o ddosbarthu cyllid yw bod cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn cael rheolaeth wirioneddol dros sut, ble a phryd y caiff arian ei glustnodi. Mae’n gosod pobl leol wrth wraidd cynlluniau lleol, yn hytrach na bod pobl leol yn gorfod ffitio i mewn i gynlluniau cyllidwr.
Rydym ar hyn o bryd yn cyllido 20 o Sgyrsiau Lleol ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru. I gymryd rhan yn y rhaglen Sgyrsiau Lleol, roedd angen i gymdogaethau a oedd yn ymgeisio gyflawni’r amodau canlynol:
- Bod â phoblogaeth wedi’i diffinio o ryw 4,000 o bobl
- Disgyn o fewn ystod 0-30% Mynegeion Amddifadedd Lluosog Lloegr, yr Alban neu Gymru
- Bod â sefydliad cymunedol lleol sydd:
-
-
- Yn adnabyddus i drigolion lleol;
- Yn deall y cysyniadau o reolaeth ar y cyd sy’n arwain at anghydraddoldebau iechyd llai;
- Â’r gallu i ddod â phobl at ei gilydd i greu cysylltiadau cryfach ac yn clymu Ymddiriedolaethau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd;
- Â’r sgiliau a’r gallu i arwain y Sgwrs Leol.
-
Mae’r rhaglen Sgyrsiau Lleol yn anelu at gyflawni gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth o leihau anghydraddoldebau iechyd drwy gefnogi cymdogaethau i fynd drwy broses o ymgysylltiad dwfn a dod o hyd i’w syniadau eu hunain a fydd wedi’u penderfynu’n lleol.
Trosolwg
Ar hyn o bryd mae 20 o brosiectau Sgwrs Leol byw wedi’u gwasgaru ar draws gwledydd Prydain, a rhai ohonynt wedi’u sefydlu ers 2014. Mae’r cymdogaethau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen i gyd o fewn y 30 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng ngwledydd Prydain.
Sut mae’r rhaglen Sgyrsiau Lleol yn gweithio
Bydd grant cychwynnol yn cefnogi sefydliad arweiniol lleol i weithio gyda chymdogaeth er mwyn nodi blaenoriaethau lleol drwy ymgysylltiad. Ar ôl iddynt gael eu sefydlu gan y trigolion, bydd grant llawn yn dilyn sy’n eu helpu i fynd i’r afael ag anghenion a dyheadau lleol drwy weithgareddau ymgysylltu, gweithrediad, digwyddiadau a gweithgareddau. Rhoddir cyllid atodol pellach gan ddibynnu ar y cynnydd a fydd wedi’i wneud. Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw ariannu pob Sgwrs Leol am chwech i wyth mlynedd o leiaf.
Egwyddorion y rhaglen Sgyrsiau Lleol
- Rheolaeth – cymunedau’n siapio’r gweithgareddau
- Cysylltu – cymunedau’n teimlo mwy o gysylltiadau lleol
- Cyfraniad – cymunedau’n teimlo eu bod yn gwneud eu cymdogaeth yn well lle i fyw ynddo
- Yn werthusadwy – rhaid ein bod yn gallu deall yr effaith
- Cydweithredu – gweithio ar y cyd a rhannu dysgu
Sgyrsiau Lleol ym Mhenparcau
Mae Fforwm Cymunedol Penparcau’n rhedeg Sgwrs Leol ym Mhenparcau ers 2014, gan gefnogi trigolion lleol i nodi camau gweithredu a gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau canlynol:
- Ieuenctid ac Addysg
- Cludiant Cymunedol
- Amgylchedd
- Hwb Cymunedol
Cytunwyd y blaenoriaethau hyn â thrigolion fel rhan o ddatblygiad y Prosiect Sgwrs Leol. Mae’r Fforwm Ieuenctid yn arwain gweithgareddau i bobl ifainc ac yn gweinyddu rhaglen grantiau bychain.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Sgyrsiau Lleol, gellwch chi anfon e-bost i enquiries@peopleshealthtrust.org.uk neu gellwch chi alw ar 020 7749 9100